Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, wedi “siomi yn ofnadwy” gyda’r newyddion fod gwaith cynhyrchu’n dod i ben yn Alwminiwm Môn.

“Roedd yna wahaniaethau sylfaenol rhwng uchelgais fasnachol perchnogion Alwminiwm Môn, Rio Tinto a Kaiser, a’n dyletswyddau ni i’r trethdalwyr,” meddai Peter Hain.

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi gwneud cynnig hael iawn ar gyfer achub y safle, “ond doedd hi ddim yn bosib cael cytundeb”.

Ychydig llai na phythefnos yn ôl, fe ddywedodd wrth Golwg 360 fod y ddwy ochr yn nesu’n ara’ at gytundeb tros gynnig llywodraethau Cymru a Phrydain i roi cymorthdal o £48 miliwn i’r cwmni tros gyfnod o bedai blynedd.

“Eisiau sicrwydd”

Y broblem fawr, meddai ar y pryd, oedd fod angen i’r llywodraethau gael sicrwydd tymor hir gan y cwmni y bydden nhw’n aros yn Ynys Môn – neu yn talu’n ôl.

“Doedd Rio Tinto na Kaiser ddim yn teimlo eu bod yn gallu sicrhau y bydden nhw’n gallu talu arian y trethdalwr yn ôl petai’r safle’n cau ac, fel Llywodraeth, roedd hi’n angenrheidiol i ni amddiffyn lles y trethdalwr.”

O’r ochr arall mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw wedi rhoi addewidion ynghylch eu bwriadau tymor hir a bod “cwestiynau i’;w gofyn” pam fod y trafodaethau wedi methu.

Ymdrechu ‘hyd y diwedd’

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, yr Aelod Cynulliad tros Ynys Môn, fod y cyhoeddiad yn “newyddion ofnadwy i’r gweithlu ac i economi’r ynys”.

Dywedodd hefyd fod “pob ymdrech” wedi ei gwneud i achub swyddi, “hyd y diwedd”.

“Mae llawer o deuluoedd yn wynebu dyfodol ansicr nawr,” meddai Ieuan Wyn Jones, “ac fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud popeth i’w cefnogi.”