Mae Morien Phillips, y diddanwr, yr addysgwr a’r dyn theatr, wedi marw yn 79 oed.

Roedd Morien Phillips yn adnabyddus ym myd y ddrama yng Nghymru fel actor a chynhyrchydd, roedd yn berfformiwr ac arweinydd noson lawen, yn feirniad eisteddfod ac yn aelod o dîm Penrhosgarnedd ar y rhaglen Talwrn y Beirdd.

Roedd yn un o genedlaethau talentog i ddod o ardal Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon a Choleg Normal Bangor lle bu wedyn yn darlithio am bron chwarter canrif yn yr adran ddrama.

Cyn hynny, treuliodd ddwy flynedd yn y llu awyr, cyn dod yn athro a phrifathro yn ysgol Treffynnon.

Cyfeillgarwch 50 mlynedd

Roedd Morien Phillips yn ysgrifennydd ac yn ddiacon yn Eglwys Pendref Bangor ac, yn ôl ei gyn weinidog John Gwilym Jones, roedd y ddau wedi adnabod ei gilydd ers 50 mlynedd.

“Roedd yn ddiddanwr ac yn berfformiwr amryddawn iawn,” meddai John Gwilym Jones am ei gyfaill, “yn adroddwr, yn ogystal ag actor a chantor.

“Roedd yn cymryd ei waith o ddifri; yn mynd i Stratford a Llundain i weld sut roedd dulliau cynhyrchu yn newid.

“Roedd hefyd yn fardd, yn ysgrifennu sonedau arbennig, ac yn gallu darllen ei waith yn effeithiol.”

Roedd Morien Phillips yn briod â’r delynores Morfydd Maesaleg.

Llun (Gerallt Llywelyn)