Cadarnhawyd heddiw y bydd gwaith cynhyrchu yn Alwminiwm Môn yn dod i ben ddiwedd mis Medi, sy’n golygu y bydd 250 o bobol yn colli eu swyddi.

Daw’r cadarnhad er gwaethaf i Lywodraethau Cymru a San Steffan gynnig £48 miliwn tros bedair blynedd i’r perchnogion, ar gyfer cynnal y ffatri .

Yn ôl y perchnogion – Rio Tinto a Kaiser – doedd dim modd parhau i gynhyrchu alwminiwm ar y safle, gan fod cytundeb am drydan rhad i’r cwmni o orsaf bŵer niwclear yr Wylfa, yn dod i ben ym mis Medi.

Roedd ymgyrchwyr wedi gobeithio gallu achub swyddi ar y safle drwy adeiladu gwaith trydan biomas yno ond, ar ôl y cyhoeddiad heddiw, mae’n ymddangos na fydd hyn ddim yn digwydd.

Mae hyn yn golygu mai dim ond tuag 80 o weithwyr fydd yn parhau i weithio yn y ffatri, gan prosesu metel sy’n dod o lefydd eraill.

Chwerw oedd ymateb cynta’ gwleidyddion lleol, fel y cynghorydd John Chorlton. Roedd ef – ac AS yr Ynys, Albert Owen, wedi amau ers tro fod y perchnogion eisiau rhoi’r gorau i’r gwaith doed a ddêl.