Mae’r nifer o achosion ffliw’r moch yng Nghymru wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl y llywodraeth, mae’r nifer sydd yn dioddef o’r salwch ar hyn o bryd tua’r un faint a’r nifer fyddai’n dioddef o’r ffliw arferol yn ystod y gaeaf.

Dywedodd yr adroddiad fod y nifer o bobol sy’n dangos symptomau o’r salwch, wedi disgyn i 49.4 o bob 100,000, o’i gymharu â 69.9 yn yr wythnos flaenorol.

Yn ystod yr wythnos diwethaf fe wnaeth y canran o alwadau i GIG Cymru yn ymwneud a ffliw leihau 29.8%.

Mae 33 o bobol sydd wedi cael diagnosis o ffliw moch yng Nghymru wedi mynd i’r ysbyty, ond mae 31 o’r rheini bellach wedi gadael.