Mae Ofcom, yr awdurdod sy’n cadw trefn ar gwmniau cyfathrebu, wedi dweud heddiw fod rhaglen ‘Waterfront’ ITV Cymru wedi darlledu sylw annheg am Ganolfan Mileniwm Cymru.

Roedd Canolfan Mileniwm Cymru wedi cwyno wrth Ofcom am gymhariaeth annheg a wnaed yn ystod eitem ar y rhaglen Waterfront, a ddarlledwyd ar 1 Tachwedd 2007.

Roedd yr eitem wedi bod yn beirniadu’r ganolfan am fethu â datblygu marchnad fasnachol i’w chynnal ei hun, gan ddibynnu yn hytrach ar arian cyhoeddus.

Honiad ‘annheg’

Gwnaed honiad ar y rhaglen fod canolfan gyffelyb yn Lloegr – y Southbank Centre yn Llundain – yn gweithredu heb gymorth arian cyhoeddus.

Ond penderfynodd Ofcom fod yr honiad yma yn un annheg, gan fod y Southbank Centre wedi derbyn cymhorthdal cyhoeddus sylweddol – £19 miliwn – i ddatblygu eu hochr fasnachol.

Dywedodd Cadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru, yr Arglwydd Rowe-Beddoe, ei fod yn “falch fod yr Ofcom Fairness Group wedi dyfarnu o blaid ein cŵyn.”

“Rheolau euraid newyddiaduriaeth yw cywirdeb, tegwch a thryloywder, ac mae’r penderfyniad yma’n profi na ellir plygu’r gwirionedd er budd stori,” meddai’r Arglwydd Rowe-Beddoe.”