Mae amheuaeth ynglŷn â dyfodol y cynllun i adeiladu carchar newydd yng Ngwynedd.

Roedd Adran Gyfiawnder Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau ym mis Chwefror eleni y byddai’r carchar yn cael ei ddatblygu ar safle hen ffatri gwneud breciau Dynamex, gerllaw Caernarfon.

Roedd disgwyl y byddai cytundeb ynglŷn â’r datblygiad wedi digwydd erbyn mis Gorffennaf eleni, ond dyw’r Adran Gyfiawnder ddim wedi prynu’r safle eto, nac wedi bod mewn cysylltiad â’r perchnogion, Bluefield Caernarfon Cyf.

Yn ôl Bluefield Caernarfon Cyf., does ganddyn nhw ddim syniad a yw’r Adran Gyfiawnder am barhau â’u ymrwymiad i brynu’r safle, a datblygu’r carchar.

Oherwydd hyn, mae sôn fod y cwmni yn bwriadu parhau efo’u cynllun gwreiddiol o ddatblygu tai a chyfleusterau hamdden ar y safle.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Gyfiawnder, mae’r “broses lywodraethol” wrthi’n cael ei gwblhau, ac mi fyddant yn cysylltu efo pherchnogion y ffatri.

Yn ôl amcangyfrif gan y Llywodraeth, gall datblygu’r carchar ar y safle greu cannoedd o swyddi adeiladu, tua 1,000 o swyddi llawn amser, a hwb o £17 miliwn i’r economi leol.