Mae rygbi saith bob ochr wedi cael ei argymell fel un o’r chwaraeon newydd i’w cynnwys yng Ngemau Olympaidd 2016.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i rai o sêr rygbi Cymru gystadlu am fedal aur – ond fel rhan o dîm Prydeinig.

Mae golff hefyd ymysg y chwaraeon sydd wedi eu hargymell ar gyfer eu cynnwys yn y gemau o 2016 ymlaen.

Nid yw golff wedi ei gynnwys yn y gemau Olympaidd ers gemau St Louis yn yr Unol Daleithiau yn 1904.

Mae trafodaeth wedi bod eisoes a fyddai hawl gan y prif chwaraewyr golff gymryd rhan yn y gemau.

Ond mae Tiger Woods wedi dweud y byddai’n awyddus i chwarae pe bai’n cael y cyfle.

Ni fydd y dewis yn swyddogol tan cyfarfod llawn pwyllgor y gemau Olympaidd ym mis Hydref.

Mae bocsio menywod wedi cael ei gynnwys fel un o’r chwaraeon newydd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.