Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y bu llai o droseddu na’r disgwyl yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Dywedodd yr heddlu y bu 13 o ddigwyddiadau troseddol dros gyfnod yr ŵyl. Roedd hynny’n cynnwys chwe throsedd ar y maes a saith yn y dref a’r cyffiniau.

Roedd y troseddau’n cynnwys tramgwyddo yn erbyn y drefn gyhoeddus, ffônau symudol yn cael eu dwyn a thorri i mewn i gar ar y maes.

“O’n rhan ni roedd yn eisteddfod lwyddiannus iawn,” meddai’r Arolygydd Meirion Ellis, Heddlu Gogledd Cymru.

“Roedd yn brysur iawn ond roedd pawb wedi bihafio. Cawsom fân ddigwyddiadau, ond roedd y nifer o droseddau yn is nag y disgwyl.”