Mae aelodau’r pwyllgor annibynnol a gyflwynodd argymhellion i’r Cynulliad ynglŷn â diwygio system gostau’r Aelodau etholedig, wedi cael ei beirniadu am dderbyn tâl uchel am ei gwaith.

Derbyniodd pedwar aelod y pwyllgor gyfanswm o £59,762.81 am eu ymchwil a’u hargymhellion, gwaith a gymrodd 11 mis i’w gwblhau.

Cadeirydd y pwyllgor oedd y gŵr busnes a chyn gadeirydd Asiantaeth Datblygu Cymru, Sir Roger Jones; yr aelodau eraill oedd Dafydd Wigley, cyn Aelod Seneddol a chyn lywydd Plaid Cymru; Nigel Rudd, cyn brif weithredwr Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain y Canoldir, a Jackie Nickson, rheolwr adnoddau dynol Opagus Group.

‘Rhagrith’

Mae’r Western Mail yn dyfynnu dau berson sy’n gweithio yn y Cynulliad, sydd heb gael eu henwi, yn beirniadu’r tâl a gafodd y pedwar yma.

Cyhuddodd un y pedwar aelod o ragrith, gan eu bod wedi beirniadu Aelodau’r Cynulliad o gymryd mantais ar y system gostau, tra’u bod nhw eu hunain wedi hawlio arian yn ôl ar ôl talu i barcio’u ceir wrth y Bae, a maes parcio i’w gael am ddim gan y Cynulliad.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y pwyllgor gan ddweud fod y gwaith a wnaethant yn sylweddol, a bod y £60,000 yn bris teg o ystyried arbenigedd yr aelodau.

Yn ôl y Llywodraeth, fe fu’r pwyllgor yn rhan o dros 30 o gyfarfodydd, ac fe gafodd costau eu cadw i’w isafswm.

Ynglŷn â’r mater o barcio ceir, dywedodd y Llywodraeth nad oedd llefydd ar gael bob tro ym meysydd parcio’r Cynulliad.