Bu’n rhaid i dîm ifanc y Scarlets weithio’n galed i faeddu Castell-nedd wrth i baratoadau gychwyn ar gyfer y tymor newydd.

Fe sgoriodd Lee Williams gais hwyr i sicrhau buddugoliaeth 10-16 i’r rhanbarth ar y Gnoll.

Roedd amddiffyn Castell-nedd yn gadarn yn yr hanner cyntaf, ond yn y pen draw, fe groesodd y blaenasgellwr Jonathan Edwards y llinell gais i’r Scarlets.

Gorffennodd yr hanner cyntaf gyda’r rhanbarth 8-7 ar y blaen.

Ar ddechrau’r ail hanner fe wnaeth maswr y Scarlets, Daniel Newton, drosi cic adlam i gynyddu sgôr i 11-7.

Ond yn ôl y daeth Castell-nedd gydag Arwel Thomas yn trosi cic gosb i leihau’r fantais i un pwynt.

Gyda deng munud o’r gêm yn weddill fe wnaeth y mewnwr Lee Williams fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol i sgorio’r cais a wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Scarlets.