Mae darlithydd ifanc ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth £3,000 er mwyn datblygu system i gael gwared ag anifeiliaid marw.
Ers 2003, mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid yr Undeb Ewropeaidd yn gwahardd claddu anifeiliaid marw.
Ar hyn o bryd mae cael gwared â dafad yn golygu ei storio yn rhywle a disgwyl i rywun ddod i’w gasglu ar gyfer ei llosgi.
Gall hyn gymryd hyd at bythefnos a chostio gymaint â £15 sy’n “andros o glec economaidd i ffermwyr” yn ôl Dr Prysor Williams.
Mae’r darlithydd yn Ysgol Rheolaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Ysgoloriaeth Aelodau Canolbarth Gwynedd NFU Cymru i wneud y gwaith.
‘Bio-leihad’
Gobaith y darlithydd ifanc yw datblygu dull sy’n cael ei alw’n Bio-leihad – rhoi’r anifail mewn tanc i bydru cyn ei wagio yn ddiweddarach.
Mae’r anifeiliaid vn pydru’n gyflymach yn y tanc a nid oes rhaid talu i’w symud. Dywedodd ei fod o’n costio llai ac yn gwneud llai o niwed i’r amgylchedd.
“Mae’r system yn gwneud synnwyr yn economaidd ac yn gwneud gwell synnwyr o ran diogelwch hefyd,” meddai Prysor Williams.
Rhaid iddo brofi bod y sustem yn ddiogel cyn iddo gael ei dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae “cryn dipyn o waith i fynd cyn dilysu’r peth” yn ôl y darlithydd ifanc.
Bydd Prysor Williams yn gweld beth sy’n digwydd i firysau sydd gan yr anifeiliaid er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu rhyddhau o’r tanc.
Dywedodd fod y dull wedi derbyn cryn gefnogaeth yn Iwerddon, Groeg a’r Almaen ac y byddai ei ddarganfyddiadau’n “effeithio ar Ewrop gyfan”.
Ei obaith yw cyflwyno’i adroddiad erbyn haf 2010.