Fe wnaeth un o gyn-actorion Eastenders, Leslie Grantham, serennu yn ei ddrama realiti ei hun ddoe wrth iddo ddianc o dân mewn fflat yn Abertawe.
Digwyddodd y tân yn fflat Gary Iles, rheolwr y Grande Theatre yn East Burrows Road tua 12.30pm ddoe.
Mae rhai yn credu bod yr actor wedi bod yn aros yno wrth weithio ar y sioe lwyfan Write Me A Murder.
Cafodd tair injan dân eu galw i’r adeilad.
‘Dewrder’
Dywedodd Gary Williams o Awdurdodau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth bapur yr Evening Post y gallai pethau fod wedi mynd yn “gas”.
Yn ôl swyddogion tân, dangosodd yr actor gryn ddewrder drwy roi gwybod i drigolion eraill yr adeilad am y tân.
Derbyniodd Leslie Grantham driniaeth am anadlu mwg ynghyd â mân anafiadau i’w ddwylo. Yn ôl adroddiadau’r papur, roedd yr actor wedi’i “ysgwyd” gan y profiad.
Mae’r Gwasanaethau Tân yn parhau i ymchwilio i’r achos, ac yn amau mai nam trydanol yn y peiriant golchi oedd yn gyfrifol am achosi’r tân.
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran Write Me A Murder wedi datgan y bydd y sioe yn mynd yn ei blaen.