Mae cwmni sy’n gobeithio agor archfarchnad yn Machynlleth yn honni bod rhai o drigolion y dref yn gorfod mynd i Loegr i wneud eu siopa.
Mae Tesco wedi gwneud cais i adeiladu archfarchnad ym Machynlleth, ond mae’r cynllun wedi ennyn teimladau cryf o’r ddwy ochor i’r ddadl.
Yn eu cais cynllunio, mae Tesco’n amlinellu bwriad i godi adeilad 26,500 troedfedd sgwâr ger ymylon y dref.
Mae trigolion sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau’n datgan y bydd cynllun o’r fath yn difetha cymeriad presennol y dref.
Ond dywedodd Felix Gummer o Tesco wrth Golwg 360 fod ymateb eu hymchwil wedi bod yn “gadarnhaol” a bod 79% o bobol o blaid y cynlluniau newydd.
Creu 140 o swyddi
“Mae rhai o’r bobol ydan ni wedi siarad gyda nhw yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw deithio i Lloegr i siopa,” meddai Felix Gummer.
Dywedodd bod hynny oherwydd nad oedd archfarchnad digon mawr ym Machynlleth i ddarparu ar gyfer y bobol yno.
Mae Tesco wedi dechrau trafodaethau gyda’r ganolfan waith lleol ac yn honni y gallai’r siop greu 140 o swyddi newydd.
“Er efallai na fydd y swyddi rheoli’n cael eu rhoi i bobol leol yn syth,” meddai.
“Ymhen ychydig flynyddoedd, y gobaith yw y bydd gan weithwyr lleol ddigon o brofiad i gymryd y swyddi hynny hefyd.”