Adolygiad gan Elinor Wyn Reynolds

Mae nofel hyfryd Manon Steffan Ros yn teithio blith draphlith drwy’r cenedlaethau ac yn lapio hanesion bywydau menywod o ddau deulu o gylch y darllenydd yn dyner. Rydym ni’n neidio o un gangen o’r goeden deuluol i’r nesaf ar draws yr ugeinfed ganrif ond hanes Mina yn 2009 sy’n cychwyn a chloi’r llyfr, mae hi ar ei gwely angau ond fe welwn gipddarluniau o’r llinynnau bywyd gwahanol yn plethu i’w gilydd ac yn creu synnwyr o deulu, a allai fod ein teulu ni bob un.

Nanw’n caru yn y dirgel gyda’i airman golygus adeg rhyfel ac yntau’n cael ei ladd wedyn, ond mae babi fydd yn gofnod ohono am byth. Sybil yn caru dyn priod yn ystod y 1920au ac yn cadw cyfrinach pwy oedd tad ei phlant. Leusa’n ferch ifanc nôl ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn achub ei mam, Jane drwy fygu ei thad meddw cyn iddo yntau guro’i wraig ddirwgnach i farwolaeth, hithau’n gorfod byw gyda hynny weddill ei hoes. Y ddwy efaill, Sara a Miriam, sy’n cael eu siomi mewn cariad ac sy’n byw eu bywydau ymhlyg yn ei gilydd. Ruth, sy’n fam i Wil ac sy’n dotio arno ond sy’n gorfod dioddef chwerwder anghynnes ei mam-yng-nghyfraith sy’n pwdu ei hun i farwolaeth.

Mae’r merched hyn oll yn perthyn, yn famau, neiniau, merched, wyresau i’w gilydd a phob un yn mynd drwy’r un broses o fod yn ifanc, o gael bywyd llawn addewid a chyda threigl amser bod yr addewid a’r ieuenctid hwnnw’n troi’n henaint ac yn ddiwedd. Ac wrth iddyn nhw heneiddio, mae eu bywydau nhw a’r gorffennol yn dod yn gyfrinachau, yn gysgodion rhag y genhedlaeth nesaf.

Cyfrol sy’n dathlu ac yn hiraethu am fywyd ’run gafael yw hi, mae’n dangos pa mor fregus a byrhoedlog yw ein moment yn yr haul. Ein bod yn sêr gwib o bobl a’n fflamau ni’n diffodd yn ddisymwth. Gwnaeth y gyfrol fi’n drist ac yn hiraethus am y bobl a aeth heibio, am y rhai sy’n dal yma a’r rhai sydd eto i ddod. Er bod tristwch mawr i’r gyfrol am ei bod yn trafod diwedd bywyd, y stori nad yw’n cael ei hadrodd yw stori Lisa merch Mina, sef y genhedlaeth nesaf, oherwydd dyna ble mae’n gobaith ni, yn y genhedlaeth nesaf, a’r nesaf wedyn, sydd i ddod bob tro; y genhedlaeth sy’n eistedd yn llygad yr haul tra bo’r gweddill wedi mynd i’r cysgodion yn fud.