Adolygiad gan Annes Glynn

Mae ’na egni a bwrlwm hynod yng nghyfrol ddiweddaraf Manon Rhys, Cornel Aur. Nid yn unig o ran amrywiaeth cyfrwng, arddull a chywair ond o ran testun a thafodiaith hefyd – a sawl lleoliad difyr.

Daeth ei chnewyllyn yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yng Nghaerdydd y llynedd. ‘Cyfrol ac iddi gefndir dinesig, neu drefol’ oedd y ‘briff’ ar gyfer y gystadleuaeth honno, a rhaid dweud i mi gael llawer mwy o flas mwg, baw a bywyd dinas a thref yn Cornel Aur nag a gefais i yn y gyfrol a gipiodd y wobr. A, do, waeth imi gyfaddef ddim, mwy o flas ar y darllen hefyd.

Cyfuniad o straeon byrion, cerddi rhyddiaith, darnau micro ac ambell gerdd sydd rhwng y cloriau, ac at ei gilydd y darnau ‘tynnach’ a chyfrwng y stori fer draddodiadol roddodd y pleser mwyaf i mi. Y stori sy’n benthyg ei theitl i’r gyfrol, er enghraifft. Cytunaf gan y cant â beirniaid y Fedal yn y fan hon. ‘Syfrdanol a meistraidd’, stori sy’n ‘serennu’, meddent. Firenze yw’r ddinas, Cymraes a fudodd yno ers blynyddoedd sy’n adrodd ei hanes a hynny i gyfeiliant tincial sawl gwydraid llawn o Chianti Classico.

A’r awdures yn byw yn y Brifddinas, does dim syndod fod sawl darn a leolwyd yno yn gafael hefyd – y stori fer ‘ynys yr Ais’ a’r gerdd ryddiaith ‘rhyfel angenrheidiol’ yn arbennig. Mae’r olaf, a’i hadlais o arddull y Salmau, yn wirioneddol drawiadol.
Mae eraill nad ydyn nhw’n taro deuddeg yn yr un modd. Y stori ‘cwyno’, er enghraifft, yn bennaf am fy mod yn teimlo ei bod yn llawer rhy hir.

Mae’r awdures ar ei gorau wrth drafod – yn graff ar dro, yn ogleisiol dro arall – y berthynas rhwng dau. O gynildeb trist y gerdd ‘briwsion’ i’r stori ‘cromfachau’ sy’n adrodd hanes cyfarfyddiad anarferol rhwng gwraig ganol oed barchus a beicar blewog, nwydus ar lan llyn yn yr Alban. Gwenais fel giât wrth ddarllen y chwip o ddiweddglo yma!

Egni a bwrlwm. Bron nad oes ormod yma i’w dreulio mewn un gyfrol. Neu efallai bod angen ymdroi fwy nag a gefais i’r cyfle i’w wneud. Ond anodd peidio â dal ati i droi’r tudalennau oherwydd y bywyd sydd yn yr ysgrifennu hwn.