Mae o leia’ 43 o bobl wedi marw yn y Philipinau mewn brwydr rhwng milwyr y llywodraeth a gwrthryfelwyr.

Roedd y fyddin wedi lansio ymosodiad yn erbyn Abu Sayyaf – y gwrthryfelwyr sydd â chysylltiadau ag al Qaida ar ynys ddeheuol y wlad.

Bu farw o leia’ 23 milwr ac 20 o wrthryfelwyr yn ôl awdurdodau’r wlad. Roedd y fyddin yn targedu gwersylloedd y gwrthryfelwyr yn y jyngl yn Basilan Islan.

Yn y misoedd diwethaf mae aelodau o’r Abu Sayyaf wedi dechrau herwgipio pobl a chodi pridwerth (ransom) arnynt cyn eu rhyddhau, er mwyn codi’r cyllid i’w galluogi i ymladd.

Roedd dros 400 o fyddin y llywodraeth yn targedu tua 60 o’r gwrthryfelwyr. Ond yn ôl yr awdurdodau mae tua 400 o aelodau Abu Sayyaf yn bresennol ar Basilan Islan.

(Llun: Tomas Tam)