Mae prinder dybryd o gyfarwyddwyr theatr sy’n medru gweithio yn Gymraeg, yn ôl un actores sydd wedi sefydlu cwmni i hyfforddi cyfarwyddwyr.
Ddeng mlynedd nôl sefydlodd Elen Bowman gwmni Living Pictures, wedi iddi sylwi bod bwlch yn yr hyfforddiant a oedd ar gael i’r rhai oedd am fod yn gyfarwyddwyr.
“Roeddwn i wedi bod drwy hyfforddiant safonol fel actores ac wedi ei fwynhau hefyd,” eglura Elen Bowman.
“Drwy’r hyfforddiant hwnnw fe ddes i ar draws y broses Rwsieg o gynnig hyfforddiant i’r actor, a oedd yn dangos y diffyg dyfnder i’r hyfforddiant roeddwn wedi ei brofi lan at hynny.”
Astudio’r broses
Cyfeirio mae hi at ddull enwog Constantin Satnislavski o actio – mae ‘method acting’ yn gofyn i’r actor ddwyn i gof gyfnodau o’i fywyd ei hun er mwyn cyfleu emosiwn cymeriad.
Cafodd Elen Bowman gyfle ar gynffon 1997 i fynd i Moscow i astudio’r broses a oedd wedi apelio gymaint ati a chael hyfforddiant gan gyfarwyddwr amlwg iawn.
“Cefais hyfforddiant gan Sam Coggan a oedd ei hun wedi cael ei hyfforddi gan Maria Knebel – a hithau wedi ei hyfforddi gan Stanislavski ei hun!
“Felly roedd yn llinell weddol uniongyrchol at ddyn sydd wedi bod mor ddylanwadol ym myd theatr. Wedi dod nôl o fan’na, fe ddechreuodd Living Pictures.”
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Awst 13