Gyda set dynn a chyffroes o ganeuon sy’n atgoffa rhywun o fandiau fel The Killers a Doves, hawdd fyddai dychmygu fod y Promatics yn fand sy’n gigio’n gyson ac yn ymarfer yn rheolaidd. Ond nid felly mae hi.

Er i’r fwyaf aelodau y Promatics fynd i Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes (Gwynedd), maen nhw erbyn hyn yn ar wasgar; Daniel Williams a Rhys Roberts newydd orffen coleg yn Nottingham; Siôn Richards yn Aberystwyth yn astudio; a Dafydd Foxhall a Shon Thomas ill dau’n gweithio’n y gogledd.

Dechreuodd y band nôl yn 2005 ond dim ond pan ysgrifenodd Daniel Williams y gân ‘Commeo’ y daeth y band o hyd i’r sain roedden nhw’n gyfforddus ddatblygu.

“Wnaethon ni ddechra neud stwff ein hunain ond doddan ni ddim yn licio’r cyfeiriad o’dd petha’n mynd,” meddai Daniel Williams am ddyddiau cynnar y band. “Wedyn wnaethon ni sgwennu ‘Commeo’ a wnaeth petha newid o fan’na. Fel’na mae cyfeiriad y miwsig wedi mynd wedyn.”

Does dim sicrwydd a fydd y band yn canu’n Saesneg yn y dyfodol, ond mae’r unig gân Saesneg sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd yn un sy’n amhoblogaidd o fewn y band am ei fod o’r cyfnod cyn ‘Commeo’.

“Da ni’n trio phasio fo allan,” eglura Siôn Richards, gitarydd ac ail lais Promatics. “Mae’n cerddoriaeth ni wedi datblygu, mae [y gân Saesneg] yn eitha generic, sŵn fatha Winabago ac o [gyfnod] cyn i fi ymuno a’r band.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Y Babell Roc yn Golwg, Awst 13