Mae Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Caergrawnt  wedi ymddiheuro i ddwy nyrs dan hyfforddiant ar ôl i’w swyddogion gymryd pedair awr i ateb galwad 999.

Roedd y merched wedi galw’r Heddlu ar ôl i griw o ddynion eu bygwth.

Dywedodd Julie Spence, y Prif Gwnstabl, fod eu hymateb yn un “gwael ac annigonol.”

Yn sgil hyn, mae hi wedi gorchymyn ymchwiliad i’r achos i geisio darganfod pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt ymateb i’r alwad.

Fe wnaeth Amy Overend a’i ffrind alw’r Heddlu ar 3 Awst ar ôl i bedwar dyn dorri i mewn i’w hadeilad llety ysbyty yn Peterborough a’u bygwth.

Fe barhaodd y dynion i weiddi a’u difrïo y tu allan cyn mynd ymlaen i ddringo ar do’r adeilad. Dyma pryd y ffoniodd y merched 999 am yr eildro.

Fe wnaeth yr heddlu ymateb i’r alwad oddeutu hanner nos a hynny bedair awr wedi’r alwad argyfwng gyntaf am 8.17pm.

‘Synnu’

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaergrawnt y byddai’r ymchwiliad Heddlu’n darganfod pam y cafodd yr alwad ei graddio yn y fath ffordd ac nid fel galwad ac iddi’r flaenoriaeth uchaf.

“Roeddwn i wedi synnu bod yr Heddlu wedi graddio’r achos fel un eilradd,” meddai Amy Overend wrth BBC Look East.

“Mae’n gwneud i rywun feddwl beth sy’n haeddiannol o sylw argyfwng o’r radd flaenaf. Dydyn ni ddim yn ffonio 999 ar hap – rydyn ni’n ffonio’r Heddlu am reswm,” meddai.