Bydd Caerdydd ac Abertawe yn chwarae adref yn ail rownd Cwpan Carling.
Ar ôl curo Dagenham & Redbridge 3-1 nos Fawrth, fe fydd yr Adar Glas yn wynebu Bristol Rovers yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae hyn yn golygu bydd cyn-reolwr Caerdydd, Lennie Lawrence, yn dychwelyd i’w hen glwb.
Lennie Lawrence oedd rheolwr Caerdydd pan wnaeth y clwb ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth yn 2003.
Erbyn hyn mae’n gyfarwyddwr pêl droed gyda Bristol Rovers yng Nghynghrair Un, gyda’r clwb yn cael ei reoli gan y Cymro Paul Trollope.
Abertawe
Mae Abertawe yn cael ei gwobrwyo am ei buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Brighton, gyda thasg ddigon anodd.
Bydd Scunthorpe o’r Bencampwriaeth yn ymweld â’r Stadiwm Liberty am le yn y drydedd rownd.
Mae’n holl bwysig i’r ddau glwb ennill eu gemau oherwydd gallai sicrhau gêm fawr yn y rownd canlynol – gan fod prif dimau’r Uwch Gynghrair fel Manchester United a Chelsea yn dod mewn i’r gystadleuaeth yn y drydedd rownd.