Mae criwiau achub yn dal i chwilio ar ôl cael hyd i dri chorff o’r awyren a wnaeth taro i mewn i fynydd yn Papua New Guniea.
Cadarnhawyd gan awdurdodau ddoe bod 11 o deithwyr a dau aelod o’r criw wedi marw yn y ddamwain.
Roedd naw pherson o Awstralia ar yr awyren, ynghyd â thri o Papua New Guinea ac un o Japan.
‘Amodau anodd’
Dywedodd Joseph Kintau o’r Awdurdod Hedfan Gwladol fod achubwyr yn chwilio trwy’r jyngl am weddillion y teithwyr.
“Mae’r gwaith yn parhau ac mae llawer i’w gwneud ar y safle, ond mae’r amodau yn anodd iawn,” ychwanegodd Kintau.
Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Kevin Rudd, fod achubwyr wedi gorfod cerdded rhwng tair a phedair awr i gyrraedd safle’r damwain, gan fod gweddillion yr awyren ar uchder o 5,500 troedfedd.
Roedd y twristiaid yn teithio i’r ynys i gerdded ar lwybr Kokoda i safle brwydr hanesyddol rhwng milwyr Awstralia a Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Peilot profiadol
Mae’r cwmni a oedd yn hedfan yr awyren, Airlines PNG, wedi cadw cofnodion hedfan y cwmni.
Dywedodd prif weithredwr Airlines PNG, Simon Wild, bod y peilot oedd yn hedfan yr awyren wedi treulio pedair blynedd gyda’r cwmni.