Mae Morgannwg yn dal heb ennill yn y gystadleuaeth Pro 40 ar ôl colli i Surrey yn y Brit Oval.

Gyda’r glaw wedi amharu ar y gêm, fe wnaeth y tîm cartref sicrhau buddugoliaeth gyda help y rheol Duckworth/Lewis.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 189-5 wedi 37 pelawd, gyda Mark Wallace yn sgorio uchaf i Forgannwg gyda 42.

Fe wnaeth chwaraewr newydd Morgannwg, Jim Allenby, gael dechrau digon addawol i’r gêm gyda batio da. Ond fe aeth Allenby yn rhwystredig gyda bowlio effeithiol Tim Linley.

Mewn ymdrech i ergydio’r bêl tuag at ffin y cae, cafodd Allenby ei ddal gan Stuart Meaker.

Fe wnaeth Surrey gyrraedd 156-2 yn ystod ei batiad, ac roedd hynny’n ddigon iddynt ennill oherwydd y rheol Duckworth/Lewis.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Surrey o’r tymor yn y Pro 40. Mae Morgannwg un safle o waelod y tabl heb yr un fuddugoliaeth i’w henw.