Cafodd lleidr ei ddal yn dwyn arian o fanc yn Alaska – ar ôl iddo ddangos ei gyfrif banc a llun ohono’i hun i’r clerc.

Mae’r FBI wedi cadarnhau fod Jarell Paul Arnold, 34 blwydd oed yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r achos. Cafodd ei arestio ddydd Llun.

Yn ôl yr Anchorage Daily News fe wnaeth y dyn gerdded i mewn i un o fanciau’r Undeb Credyd Ffederal yr UDA yn Alaska ddydd Gwener yn holi am swm ei gyfrif.

Gofynnodd y clerc iddo am ei enw, rhif ei gyfrif a dogfen adnabod.

Yn ôl yr Awdurdodau, fe gydymffurfiodd y dyn a dangos derbynneb gyda nodyn ysgrifenedig arno’n dweud fod ganddo wn a’i fod yn hawlio arian.

Gadawodd y dyn y banc â 600 o ddoleri.

Yn ôl cofnodion y llys, cafodd y dyn ddedfryd o 57 mis yn y carchar yn 2004 am ladrad banc arall.

(Llun: Anchorage)