Mae yna arwyddion bod y dirwasgiad wedi dod i ben yn Ffrainc a’r Almaen wrth i economi’r ddwy wlad dyfu yn ystod yr ail chwarter eleni.

Fe wnaeth y ddwy wlad adrodd tyfiant mewn GDP o 0.3% yn y tri mis tan ddiwedd Mehefin.

Daeth y newyddion fel sioc i nifer o economegwyr, a oedd wedi disgwyl i’r dirwasgiad barhau’n hirach yn y ddwy wlad. Roedd economi Ffrainc wedi crebachu 1.1%, a oedd yn fwy na’r disgwyl, yn y chwarter cyntaf.

Mae hefyd yn rhoi pwysau ar Gordon Brown a’i honiad bod y dirwasgiad yn un byd-eang. Does dim disgwyl i GDP Prydain dyfu tan y trydydd chwarter eleni.

Ond mae hefyd yn newyddion da i Brydain, gyda Ffrainc a’r Almaen ymysg partneriaid masnachol mwya’r deyrnas unedig.

“Mae’r data yn fy synnu i. Ar ôl blwyddyn mae Ffrainc yn dod allan o’r coch,” meddai gweinidog cyllid Ffrainc, Christine Legarde.

Mae dirwasgiad yn cael ei ddiffinio fel crebachiad yn yr economi am ddau chwarter yn olynol.