Mae’r ci talaf yn y byd yn ôl y Guinness Book of Records wedi marw ar ôl brwydr yn erbyn chancr yr esgyrn.

Roedd Gibson, yr ‘Harlequin Great Dane’ o Grass Valley yn yr Unol Daleithiau yn saith oed ac yn mesur saith troedfedd a modfedd o daldra wrth sefyll ar ei goesau ôl.

Roedd y ci wedi bod yn dioddef o gancr ers mis Ebrill diwethaf ac o’r herwydd wedi gorfod cael torri ei goes dde i ffwrdd.

Hefyd, cafodd driniaeth cemotherapi i geisio sicrhau na fyddai’r cancr yn lledaenu.

Cafodd Sandy Hall perchennog y ci wybod yr wythnos diwethaf fod cancr Gibson wedi lledaenu i’w ysgyfaint a’i asgwrn cefn.

Dywedodd milfeddygon wrthi na fyddai’r un driniaeth yn arbed ei fywyd bellach.
Cafodd y ci ei roi i gysgu ddydd Gwener.

Cafodd Gibson lu o brofiadau yn ystod ei saith mlynedd gan cynnwys ymddangos ar rhaglen deledu ‘The Tonight Show,’ rhaglen Oprah Winfrey, ‘The Ellen DeGeneres Show’ yn ogystal ag ar deledu Japan yn 2006.