Er gwaetha gobaith cannoedd o seryddwyr i fwynhau sioe sêr wib neithiwr, cafodd y rhan fwyaf eu siomi wrth i hanner y wlad gael ei gorchuddio â chymylau.

Mae’r ffenomenon naturiol yn digwydd pob haf.

Fel arfer, mae’r sêr gwib ar eu hamlycaf ym mis Awst oherwydd bod yr awyr yn glir, yn ôl llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd disgwyl i’r sioe gyrraedd ei hanterth yn gynnar y bore heddiw. Ond, doedd dim golygfa odidog i’w gweld – dim ond cymylau trwchus.

Dywedodd Matt Dobson o MeteoGroup fod gogledd Lloegr a’r Alban wedi cael golygfeydd cliriach na gweddill Prydain gyda’r olygfa yng ngogledd Cymru’n amrywio.

“Mwy o newyddiadurwyr”

Roedd seryddwyr yn gobeithio gweld oddeutu 50 i 80 seren wib yn saethu drwy’r awyr a hynny pob awr.

Dywedodd Cymdeithas Seryddol Newbury eu bod yn gobeithio y byddai’r digwyddiad yn un byd-eang drwy ddefnyddio gwefan ryngweithio gymdeithasol Twitter.

Fe wnaeth y grŵp gynnal “parti sêr gwib” gyda miloedd o ymwelwyr ledled y byd yn ‘twitro’ lluniau byw o’r sêr gwib.

Yn anffodus, yn ôl gwefan PA cyhoeddodd y grŵp un neges yn datgan eu bod wedi gweld mwy o newyddiadurwyr na sêr gwib yn ystod y 30 awr ddiwethaf.