Un ffordd o ddatrys y pwysau ariannol ar gyllideb addysg Gwynedd yw cau 25 o ysgolion, yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru sy’n dal portffolio addysg Cyngor Gwynedd.

Pwysau ariannol i wneud arbedion yn y gyllideb ysgolion cynradd sy’n golygu bod swyddog o’r Cyngor wedi crybwyll yn gyhoeddus ffigwr o faint fyddai’n gorfod cau meddai’r Cynghorydd Liz Saville.

“Fyddai torri 25 ysgol yn un ffordd ond dyw hyn ddim wedi cael ei drafod gan gynghorwyr ac mae mwy nag un ffordd o gyrraedd yr arbedion – gallwn wneud dosbarthiadau yn fwy, er enghraifft,” meddai.

‘Symud y pyst’

Ond byddai gwneud dosbarthiadau’n fwy yn groes i argymhellion gweithgor sefydlwyd i edrych ar drefniadaeth ysgolion cynradd yng Ngwynedd.

Cafodd yr adroddiad ei fabwysiadu gan Gynghorwyr ym mis Ebrill 2009.

Roedd y Cynghorydd Simon Glyn yn un o chwe aelod amlbleidiol ar y gweithgor hwnnw. Bellach mae wedi gadael, gan gyhuddo’r Cyngor o symud y pyst.

Yn wreiddiol roedd Simon Glyn wedi brolio’r sustem sgorio fyddai’n edrych ar bob dalgylch fesul un a lle byddai ysgolion unigol yn cael sgôr isel am bethau fel cyflwr gwael adeilad, mwy na 25 o blant mewn dosbarth, ac ystod oed eang yn cael eu dysgu mewn un dosbarth gan un athro.

Ond bellach mae’n gweld y broses yn ymgais i ganfod arbedion yn hytrach na chreu trefn fwy effeithiol.

“Mae hyn yn rhywbeth newydd felly mae’r gôl posts wedi newid,” meddai wrth Golwg.

“Brîff y gweithgor pan sefydlwyd oedd gwneud addysg gynradd yn fwy effeithiol – nid darganfod arbedion! Felly mae’r llong wedi newid cyfeiriad.”

Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Awst 13