Mae Llais Gwynedd yn blaid negyddol sy’n rhy bersonol wrth bigo beiau eu gwrthwynebwyr gwleidyddol.
Dyna farn Llywydd Plaid Cymru, a gollodd ei sedd ar Gyngor Gwynedd i ymgeisydd Llais Gwynedd yn yr etholiadau lleol ym mis Mai y llynedd.
Yn ddiweddar, mae Dafydd Iwan wedi bod yn gocyn hitio i aelodau Llais Gwynedd wrth i lun ymddangos ar flog o’i gar wedi ei barcio mewn man parcio i’r anabl.
Mae’r llun wedi arwain at drafodaeth frwd ar flogiau ac ar dudalen lythyrau papur newydd y Daily Post.
Roedd yn dangos ei gar wedi’i barcio y tu allan i bencadlys Cyngor Gwynedd mewn man oedd wedi’i neilltuo ar gyfer gyrrwyr anabl.
“Dw i ddim cweit yn deall y busnes parcio yma.” meddai Dafydd Iwan.
“Hynny ydi, fyswn i ddim wedi parcio yna oni bai bod rhywun wedi dweud ei bod hi’n iawn. Dydw i ddim yn parcio mewn llefydd anabl.”
Chwilio am faw?
Mae Dafydd Iwan wedi mynd i feddwl hwyrach fod rhywun yn ei ddilyn gyda chamera.
“Mae yna agweddau sinistr ynglŷn â hyn ynde,” meddai Dafydd Iwan.
Mae gan Dafydd Iwan ei syniadau ei hun am sut ddoth y llun i ymddangos ar flog Gwilym Euros.
“Mae’n anodd credu ei fod o wedi cael ei dynnu gan ffôn symudol,” meddai.
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Awst 13