Mae Llywydd y Cynulliad yn dweud na fyddai’n ddefnydd call o arian cyhoeddus i barhau i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud ar lawr y Sennedd.

Ond ar yr un pryd mae’n gwadu mai arbed arian yw’r bwriad o ddileu’r fersiwn Gymraeg o’r Cofnod, ond mater o gysoni’r drefn.

“Nid safio costau ydy o o gwbwl,” meddai Dafydd Elis Thomas. “Fy mwriad i yn wreiddiol, ond bod yr Ysgrifenydd Gwladol wedi ei wyrdroi o, oedd ein bod ni’n gwneud yn verbatim ac wedyn ein bod ni’n cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg.

“Hynny yw ein bod ni’n gwneud ar y cofnod printiedig beth ydan ni’n wneud yn y darllediadau i’r bobol yn yr oriel cyhoeddus.”

Cynsail peryglus?

“Rydan ni wedi cysoni’r trefniadau ynglŷn â chyfieithu’r pwyllgorau a’r sesiwn lawn i fod yr un peth; mae yna gyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg [ond] dydyn ni ddim yn cyfieithu nôl i’r Gymraeg ar gyfer cyfarfodydd llawn oherwydd dydyn ni ddim yn teimlo gyda’r cynnydd sydd wedi bod yn ein gwaith ni bod hynny’n ddefnydd da o adnoddau cyhoeddus,” meddai.

Mae ofnau mawr bod penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i beidio cyfieithu’r cofnod o drafodaethau’r Senedd i’r Gymraeg yn gosod cynsail peryglus o ran defnydd o’r Gymraeg.

Ers y Cynulliad cyntaf yn 1999 mae’r trafodaethau yn y siambr wedi cael eu cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg o fewn 24 awr ond, fel datgelwyd gan golwg360, mae’r Comisiwn wedi penderfynu peidio cyfieithu i’r Gymraeg pan fydd y Cynulliad yn ail-ddechrau cyfarfod ym mis Medi, fydd yn arbed £250,000.

Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Awst 13