Bydd rhan o Eisteddfod 2010 yn cael ei chynnal dan y ddaear ym Mlaenau Gwent, wrth i stondinau a phabelli gael eu gosod mewn hen seleri ar safle hen waith dur Glyn Ebwy.
“Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn clirio’r gwaith dur er mwyn adeiladu pentref newydd ac estyniad i dref Glyn Ebwy,” eglura Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
“Ac ry’n ni’n gobeithio bydd llawer o’r isadeiledd ar gyfer y pentref newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf a byddwn ni’n adeiladu’r maes o gwmpas hwnna.”
“Ry’n ni hefyd yn eithaf sicr bydd rhannau o’r maes y flwyddyn nesaf dan ddaear. Mae yna ambell i seler enfawr yna ar ôl y gwaith dur felly maen nhw’n meddwl rhoi ambell i babell ac ambell i arddangosfa lawr yn y seler.”
Fel rhan o gynllun adfer Blaenau Gwent, mae canolfan hel achau yn cael ei hadeiladu a bydd hwn yn rhan o faes yr Eisteddfod.
Gwreiddiau dwfn
Daeth nifer o bobol i stondin Eisteddfod 2010 i egluro i Richard Davies a’i dîm bod ganddyn nhw deulu oedd yn dod o’r Cymoedd.
“Mae lot o bobol â’u gwreiddiau nhw yn ddwfn yn ardal y Cymoedd,” eglura Richard Davies.
“Mae canolfan dreftadaeth yn mynd i agor a’r gobaith yw y byddwn ni’n agor hwnna yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf a gall pobol ddod yno i chwilio am eu coeden deulu a chwilio mewn i bethau fel yna.”
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Awst 13.