David Brailsford yw un o enwau enwocaf y byd seiclo – ond ar un adeg pel-droed gogledd Cymru oedd ei brif ddiddordeb.

Daeth y Cymro i enwogrwydd y llynedd fel y dyn tu ôl i lwyddiant Tîm Seiclo Prydain yn Beijing y llynedd, pan gipiodd y seiclwyr wyth medal aur.

Yn 18 oed fe benderfynodd David Brailsford godi ei bac a’i throi hi am Ffrainc i chwilio am dîm fyddai’n gadael iddo seiclo yn y Tour De France.

Ond doedd ganddo ddim profiad o gystadlu mewn rasus beics ar y pryd – yn wir, ei brif ddiddordeb tra’n tyfu fyny yn Neiniolen ger Caernarfon oedd chwarae yn y gôl i dîm y pentref.

Gyrfa fyr

Roedd David Brailsford yn rhan o dîm Deiniolen gurodd Cynghrair Gwyrfai gyda hogyn o’r enw Malcolm Allen.

Mi fyddai Malcolm Allen yn gadael Deiniolen am Watford yn Llundain a dod i enwogrwydd fel un o sdreicars gorau Cymru.

Ond byrrach o lawer fu gyrfa bêl-droed David Brailsford.

Tra’n chwarae dros dîm Cyngor Gwynedd, lle’r oedd yn brentis cynllunio lonydd, mi anafodd Brailsford ei ben-glîn yn arw.

Oherwydd y difrod dyma Brailsford yn gorfod cefnu ar bêl-droed a throi at seiclo.

Mae’n chwerthin lawr y ffôn i Golwg wrth geisio esbonio pam bod y David Brailsford deunaw oed wedi rhoi’r gorau i’r swydd saff yn y cyngor, a mynd efo’i feic i wlad lle’r oedd y bobol yn siarad iaith estron.

“O ni dipyn bach yn naiif, ddim yn siarad yr iaith,” meddai David Brailsford am fynd i Ffrainc.

“Gesh i’n hel o’r gwersi ffrangeg yn yr ysgol – ond pan esh i i Ffrainc wedyn o ni’n meddwl ‘Shit, dw i’n dyfaru na fyswn i wedi trio galetach!’”

Dylanwad Deiniolen

Daeth David Brailsford i fyw i bentre’ Deiniolen, sy’n cael ei adnabod ar lafar gan bobol yr ardal fel ‘Llanbabo’, yn fachgen bach dwy oed.

Roedd ei dad John Brailsford wedi dod â’r teulu o Sheffield er mwyn cael dringo’r creigiau garw sy’n gysgod ar y pentre’.

Yn ôl David Brailsford mae cael ei fagu a’i ddysgu mewn hen bentre’ chwarel wedi rhoi haearn yn ei waed.

“Roedd o’n fywyd eitha’ caled yn Neiniolen,” meddai David Brailsford.

“Doedd o ddim yn le cyfoethog. Ond roedd pawb yn chwerthin yno drwy’r amser. Roedd o’n le efo cymeriad cryf, efo rywbeth dewr am yr ardal.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Awst 13.