Fe sgoriodd yr ymosodwr Ched Evans ddwy gôl i dîm dan 21 Cymru i sicrhau buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Hwngari a mynd i frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop.
Y capten Shaun MacDonald, sy’n chwarae i Abertawe, a sgoriodd gôl gynta’r gêm cyn i Hwngari unioni’r sgôr.
Ar ôl hynny, sioe’r ymosodwr Ched Evans oedd hi, wrth iddo geisio profi pwynt i reolwr y prif dîm, John Toshack, ac i’w gyn-fos, Mark Hughes yn Manchester City.
Fe sgoriodd i ddechrau o groesiad Christian Ribeirio wedi 35 munud, cyn cael gôl ardderchog o ymyl y blwch 18 llath i roi Cymru 3-1 ar y blaen bedwar munud cyn hanner amser.
Ond bu rhaid aros tan amser ychwanegol yr ail hanner am y bedwaredd gôl gyda chwaraewr canol cae Caerlŷr, Andy King, yn sgorio i gwblhau buddugoliaeth dda iawn.
Bydd Cymru yn croesawu’r Eidal i Abertawe ar 4 Medi mewn gêm a allai gael effaith fawr ar bwy fydd yn ennill y grŵp.