Methodd Cymru ag ennill eu trydedd gêm yn olynol ar ôl i Montengero sicrhau buddugoliaeth o 2-1 yn Podgorica.
Fe chwaraeodd y Cymry’n galonnog yn erbyn tîm digon medrus mewn tymheredd uchel ond roedd hi’n amlwg erbyn diwedd y gêm mai newydd ddechrau yr oedd y tymor gyda rhai o’r chwaraewyr wedi blino.
Cafodd amddiffyn Cymru gêm anniben – gyda Danny Gabbidon a James Collins yn dod yn ôl ar ôl amser hir gydag anafiadau – a bydd rhaid bod yn llawer mwy cadarn yn erbyn Rwsia y mis nesa’.
Ond roedd y rheolwr, John Toshack, yn gwrthod beio Gabbidon, er iddo wneud mwy nag un camgymeriad.
Hanner cyntaf
Fe sgoriodd Montenegro ddwy gôl yn agos at ddiwedd yr hanner cyntaf.
Roedd y gyntaf yn gic o’r smotyn gan Stevan Jovetic, ar ôl i’r dyfarnwr benderfynu bod
Danny Gabbidon wedi atal chwaraewr Montenegro yn y cwrt cosbi.
Fe wastraffodd Rob Earnshaw gyfle da iawn i unioni’r sgôr cyn i bas gan Simon Vukcevic ddod o hyd i Radomir Dalovic a chreu ail gôl i’r tîm cartref.
Ail Hanner
Ar ddechrau’r ail hanner, fe ddaeth y golwr Lewis Price, yr amddiffynnwr Lewin Nyatanga a’r ymosodwr Sam Vokes ymlaen yn lle Wayne Hennessey, Ashley Williams a Simon Church.
Fe wnaeth Vokes argraff fuan gan sgorio gyda pheniad gwych o groesiad Sam Ricketts i roi gobaith i Gymru. Ond fe aeth y gêm yn dawel a Chymru’n methu â rhoi llawer o bwysau ar Montenegro.
Gyda’r ddwy ochr yn eilyddio yn ystod yr ail hanner, fe gollodd y gêm ei llif.
Pwy wnaeth yn dda?
Barn Euros Lloyd
Er y golled, dylai John Toshack fod yn hapus gyda rhai o berfformiadau’r chwaraewyr.
Cafodd y capten Joe Ledley ynghyd ag Aaron Ramsey gemau da unwaith eto yn y crys coch.
Braf oedd gweld Gabbidon yn ôl yn chwarae i Gymru ar ôl colli 18 mis o bêl-droed oherwydd anaf.
Er nad oedd ar ei orau, mae’n gynnar iawn yn y tymor, ac mae angen amser arno i wella ar ei ffitrwydd.