Fe gafwyd llanc 17 oed o Loegr yn farw yn un o ganolfannau gwyliau enwoca’r Môr Canoldir.
Marwolaeth Andre Young o Essex yw’r digwyddiad dadleuol diweddara’ ym Malia yn Ynys Creta.
Dyw’r heddlu ddim yn credu fod dim amheus am farwolaeth y llanc o Saffron Walden – maen nhw’n meddwl ei fod wedi cael anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cwympo.
Yn ôl papur newydd y Daily Mirror, roedd ymwelwyr eraill wedi ei weld yn feddw nos Fawrth yn y dre’ wyliau.
Fe fu llawer o ddadlau am ymddygiad ymwelwyr ifanc o wledydd Prydain yno ac mae achosion o bobol leol yn protestio ynglŷn â hynny.