Mae’r llanc sydd mewn coma ar ôl ymosodiad ym Mallorca wedi dod yn ôl i ysbyty yng Nghymru.

Fe gafodd Alex Hughes, 16 oed, o Radur ger Caerdydd, ei hedfan i Gymru ddiwedd y prynhawn ddoe.

Mae bellach yn cael triniaeth yn Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas, lle mae’n parhau yn anymwybodol.

Roedd wedi cael ei daro yn ei ben gyda photel pan oedd ar noson allan yn nhref wyliau fechan Port d’Andratx yng ngorllewin yr ynys – roedd yno gyda ffrind a’i deulu ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU.

Mae tri llanc lleol wedi cael eu harestio am yr ymosodiad a ddigwyddodd wrth i Alex Hughes a’i ffrind adael clwb nos.

Un esboniad posib yw bod bechgyn lleol yn anhapus am fod y ddau Gymro wedi dawnsio gyda merched lleol.

Llun: Port d’Andratx (Harenber – Trwydded GNU)