Mae teulu gwraig sydd wedi bod mewn coma ers diwrnodau ar ôl cael gwenwyn bwyd e-coli, wedi cadarnhau ei bod wedi deffro.

Fe fu Karen Morrisroe-Clutton, 31, o Llai, Wrecsam, yn Ysbyty Maelor yn y dref ers dros wythnos bellach, ar ôl dal straen difrifol o’r salwch, a hynny ddim ond deg wythnos ar f4l cael babi.

Yn ôl ei mam, Rosemary Morrisroe, mae Karen Morrisroe-Clutton, sydd â mab 12 wythnos oed, yn ymwybodol ac wedi cael ei thynnu oddi ar driniaeth dialysis.

“Mae hi’n hanner effro,” meddai Rosemary Morrisroe. “Dwi wedi gallu siarad efo hi; dydi hi ddim yn gallu ateb ond mae hi’n gallu ysgwyd neu amneidio ei phen ryw ychydig.”

“Mae hi’n gryf iawn … Mae ei chryfder yn gwneud i fi deimlo yn eitha’ hyderus. Dw i’n credu mai ei chryfder hi ac ymroddiad y meddygon sydd wedi dod â hi cyn belled.”

Merch fach yn “gwella hefyd”

Yn ogystal â Karen Morrisroe-Clutton, mae merch dair oed, Abigail Hennessey, hefyd wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae hi wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, ac mae adroddiadau ei bod hithau’n gwella.

Fe fu Sarah Hennessey, mam Abigail, a gwraig arall, yn diodde’ o achos llai difrifol o’r salwch.

Does dim sicrwydd ynglŷn â tharddiad yr e-coli, ond mae amheuaeth fod siop sglodion yn Llai yn gyfrifol. Mae’r siop wedi cael ei chau gan Gyngor Wrecsam, er mwyn cynnal ymchwiliad.