Mae disgwyl cannoedd o bobol i ddod i wersyll newid hinsawdd ym Merthyr, er mwyn protestio yn erbyn gwaith glo brig anferth yno.
Brynhawn ddoe, fe lwyddodd arweinwyr Climate Camp Cymru i osod eu gwersyll o fewn tua 40 llath i ffin y gwaith yn Ffos y Frân – tua’r un pellter i ffwrdd â’r tai agosa’.
Y bwriad yw aros yno tros y Sul gan ddenu cannoedd yn rhagor o ymgyrchwyr amgylcheddol sy’n condemnio’r defnydd o lo am gynyddu lefelau carbon.
Yn y gorffennol, mae gwersylloedd newid hinsawdd wedi arwain at weithredu uniongyrchol a gwrthdaro gyda’r heddlu.
Mae’r gwaith ar dir comin i’r gogledd-ddwyrain o Ferthyr, yn agos at bentrefi fel Dowlais a Phenydarren.
Sŵn a llwch
Ffos y Frân yw’r gwaith glo brig mwya’ yng Nghymru a’r bwriad yw codi bron 11 miliwn tunnell o lo oddi yno tros gyfnod o 15 mlynedd. Yn ôl y gwrthwynebwyr, fe fyddai llosgi hynny bob blwyddyn yn creu cymaint o garbon deuocsid â gwlad Mozambique.
Roedd pobol leol yn protestio yn ei erbyn cyn iddo agor ac maen nhw’n parhau i wneud hynny, gan gwyno am lefelau sŵn a llwch.
Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi’r cynllun ond fe fu’n rhaid mynd trwy achosion llys cyn cael caniatâd terfynol.
Llun: O wefan www.thecoalhole.org