Mae’r heddlu wedi apelio ar i bobol sy’n gwersylla yng ngogledd Cymru gadw llygad am bedoffil sydd ar ffo.

Maen nhw’n amau y gallai Michael Edwards, 41 oed, fod yn Llundain neu mewn meysydd gwersylla yn y Gogledd.

Fe gafwyd Michael Edwards, o Stryd yr Aquarium, yn Y Rhyl, yn euog yn ei absenoldeb o ymosod yn rhywiol ar ferch saith oed, ac mae wedi bod ar ffo ers hynny.

Yn Llys y Goron Manceinion yr oedd yr achos a Heddlu Manceinion sy’n apelio am gymorth. Maen nhw’n gofyn i bobol edrych yn ofalus ar ei lun a rhoi gwybod os yw’n cael ei weld.

Y disgrifiad

Dyma’r disgrifiad o Michael Edwards – 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, corff canolig, gwallt du a llygaid brown.

Mae’r heddlu hefyd wedi apelio’n uniongyrchol ar Michael Edwards ei hun i ildio a wynebu ei drosedd.

Y rhif i’w ffonio: 0800 555111