Mae Llywodraeth yr Alban yn gwadu fod penderfyniad terfynol wedi ei wneud i ryddhau’r dyn a gafwyd yn euog o lofruddio 270 o bobol yn nhrychineb Lockerbie.

Y disgwyl yw y bydd Abdelbaset Ali Mohmned Al Megrahi o Libya yn cael ei ollwng ryw dro’r wythnos nesa’, a hynny ar dir trugaredd, oherwydd ei fod yn marw o ganser y prostad.

Fe gafodd ei ddedfrydu i oes mewn carchar yn 2001, gydag argymhelliad y dylai fod dan glo am o leia’ 27 o flynyddoedd am ffrwydro awyren PanAm uwch tre’ Lockerbie yn yr Alban bedwar diwrnod cyn y Nadolig yn 1988.

Rhieni wedi rhannu

Mae rhieni’r bobol a fu farw wedi eu rhannu tros y newid, gyda llawer yn amau nad Megrahi oedd yn euog, beth bynnag.

Maen nhw’n amau cynllwyn i roi’r bai ar Megrahi, tra bod eraill yn gweld cynllwyn yn awr i’w ryddhau er mwyn plesio Libya.

Yn ôl y Prydeiniwr Dr John Swire, a gollodd ferch yn y trychineb, fe fyddai rhyddhau Al Megrahi yn “glod” i’r Alban.

Ond, meddai un fam o’r Unol Daleithiau, a gollodd ei hunig ferch, fe fyddai hynny’n “ffiaidd”.