Cymru fydd y wlad gynta’ yn y Deyrnas Unedig i gael rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer cyflwr arbennig sy’n gallu achosi clefyd y galon.

Mae cynllun peilot eisoes wedi achub bywydau, meddai Llywodraeth y Cynulliad wrth gyhoeddi y bydd y rhaglen yn cael ei hestyn ar draws y wlad.

Y nod yw dod o hyd i bobol sy’n etifeddu cyflwr o’r enw FH – hypercholesterolaemia teuluol – lle mae colesterol yn y gwaed yn anarferol o uchel ac yn gallu lladd pobol trwy glefyd y galon, a hynny’n gymharol ifanc.

Yn ôl y Llywodraeth, mae cymaint â 4,800 o bobol yn diodde’ o’r cyflwr heb wybod hynny ac fe fydd y rhaglen sgrinio yn defnyddio technegau genynnol i brofi perthnasau i bobol sydd â’r cyflwr.

Roedd y cynllun peilot yn ne Cymru wedi nodi dioddefwyr o tua 2,800 o deuluoedd.

Achub bywydau

“Roedd y prosiect yn llwyddiannus wrth ddod o hyd yn gynt i bobol oedd â’r cyflwr, ac fe fydd wedi helpu i achub bywydau.” – Dr Phil Thomas, prif ymgynghorydd y galon i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

“Gyda’r moddion iawn a’r ffordd o fyw iawn, dylai pobol gydag FH allu byw yr un mor hir â phobol heb y cyflwr.” Edwina Hart, Gweinidog Iechyd y Cynulliad (yn y llun).