Mae cyflwynydd teledu ym Mrasil sy’n cael ei amau o ymwneud â chyffuriau, wedi cael ei gyhuddo o drefnu llofruddiaethau er mwyn cael gwared ar elynion a cheisio denu mwy o bobol i wylio ei raglen.

Mae’r cyflwynydd, Wallace Souza, yn Aelod Seneddol a oedd hefyd yn cyflwyno rhaglen newyddion Canal Livre, rhaglen oedd yn nodedig am duedd o gyrraedd y fan lle mae digwyddiad difrifol wedi digwydd, o flaen pawb arall.

Cred yr heddlu yw ei fod yn trin ac yn gwerthu cyffuriau, a’i fod wedi gorchymyn llofruddio o leiaf bump o’i elynion yn y byd troseddol, a rhoi gwybod i newyddiadurwyr ei raglen lle i fynd i gael y stori.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ymwneud â chyffuriau, o greu gangiau, ac o feddiannu drylliau yn anghyfreithlon.

Mae Wallace Souza yn gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud fod gwleidyddion eraill a throseddwyr yn cynllunio yn ei erbyn.

Mae’n yn honni taw newyddiaduraeth dda ei raglen oedd yn gyfrifol am gyrraedd digwyddiadau difrifol yn gyntaf.

Mae ei fab, Rafael Souza, wedi cael ei garcharu eisoes ar gyhuddiadau o lofruddiaeth, smyglo cyffuriau, ac o feddiannu dryll yn anghyfreithlon.