Datgelwyd mewn cwest yng Nghaerlŷr heddiw fod gwraig a fu farw o lid yr ymennydd (meningitis) wedi derbyn y cyngor anghywir ar linell gymorth y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd Jasvir Kaur Gill, 48, wedi bod yn dioddef gwddf tost ac wedi bod yn peswch a chwydu.

Dywedodd llinell gymorth y Gwasanaeth Iechyd wrthi ei bod yn dioddef o ffliw’r moch, ac fe’i cynghorwyd i gymryd Tamiflu.

Ond yn ddiweddarach, dioddefodd Jasvir Kaur Gill drawiad ar y galon, a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cyhoeddwyd yn y cwest heddiw taw meningococcal septicaemia – gwenwyn gwaed sy’n cael ei achosi gan yr un bacteria sy’n achosi llid yr ymennydd – oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth.

Mae ei mab, Sukhvinder Gill (yn y llun) wedi galw ar feddygon i sicrhau eu bod yn ystyried salwch heblaw ffliw’r moch wrth ddadansoddi symptomau cleifion.

“Mae popeth y diwrnodau yma yn ymddangos i fod ynglŷn â ffliw’r moch.” Dywedodd Sukhvinder Gill wedi’r cwest.

“Os oes gennoch chi wddf tost, mi ddwedan nhw wrthoch chi am gymryd Tamiflu; mae gennoch chi ben tost, mi ddwedan nhw wrthoch chi am gymryd Tamiflu.”

“Mae popeth yn ymddangos i fod yn ffliw’r moch, ffliw’r moch, ffliw’r moch.”

“ Roedd ei symptomau hefyd yn symptomau llid yr ymennydd,” meddai. “Ond wnaethon nhw ddim meddwl am hynna.”