Mae llyfr llyfrgell a gafodd ei fenthyg cyn dechrau’r rhyfel yn 1939 wedi cael ei ddychwelyd – 70 mlynedd yn ddiweddarach.

Fe wnaeth Iris Chadwick, 83 oed, o Dorset dynnu sgôr o sioe gerddorol Rose Marie allan o lyfrgell tref Cullitt yn nwyrain Llundain pan oedd hi’n 13 mlwydd oed.

Oherwydd cynnwrf y rhyfel, anghofiodd Iris Chadwick ddychwelyd y sgôr.

Saith deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd y sgôr dal yn ei stôl Biano.

Mae penaethiaid y cyngor wedi penderfynu peidio â chodi tâl am yr eitem hwyr.

Mae’r ffi ddyddiol am eitemau llyfrgell hwyr yn 10c fel arfer – felly mae hi’n arbed mwy na £2,500.