Mae Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am ffôn symudol y ferch y cafwyd hyd iddi’n farw mewn car yng Ngheredigion ddechrau Awst.

Cafodd corff Sasha Jones ei ddarganfod gan yr heddlu mewn car ford Fiesta lliw beige ar 2 Awst, ar ffordd A487 yn agos i Aberaeron.

Dyw’r heddlu ddim wedi darganfod ei ffôn symudol eto, ac maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.

Credir mai Samsung SGH-U600, pinc golau, yw’r ffôn.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi eu bod yn credu bod Sasha Jones a’r car wedi bod mewn maes parcio yn agos i’r Angel Hotel yn Aberteifi, rhwng 10am ac 11am, ar 2 Awst.

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo gan yr heddlu o lofruddio Sasha Jones.