Mae AS blaenllaw o’r blaid Dorïaidd wedi ymddiheuro heddiw ar ôl cael ei recordio yn dweud bod Aelodau Seneddol wedi eu trin fel “cachu” a’u gorfodi i fyw ar “ddognau”.

Cafodd Alan Duncan, cysgod-arweinydd Tŷ’r Cyffredin, ei ffilmio’n dweud na fyddai unrhyw un galluog eisiau mynd i San Steffan ar ôl sgandal costau’r ASau.

Cafodd ei sylwadau eu ffilmio’n gudd gan ymgyrchydd, yn ôl papur newydd y London Evening Standard.

Mewn datganiad dywedodd Alan Duncan: “Y peth olaf mae pobol eisiau ei glywed ydi AS yn cwyno am ei dâl a’i amodau.

“Mae’n fraint anferth bod yn AS ac er bod fy sylwadau yn jôc rydw i’n ymddiheuro amdanyn nhw.”

Ar y ffilm, mae Alan Duncan yn cwyno ei fod o wedi gorfod talu £4,000 yn ôl ar ôl hawlio costau am waith ar ei ardd.

“Rydw i’n hawlio cyfran fach iawn o’r hyn sy’n briodol,” meddai ar y fideo. “Fe alla’i hawlio’r cwbl, ond dw i ddim.

“Mae’r byd wedi mynd yn wallgo’.”