Mae parafeddyg sydd wedi ei gyhuddo o gael rhyw geneuol (oral) mewn maes parcio ysbyty tra ar ddyletswydd wedi cael ei ddiswyddo, heddiw.

Cafodd y dyn priod ei ddal ar deledu cylch cyfyng gyda dynes ar ei lin mewn car yn Ysbyty Cyffredinol Rotherham.

Er iddo wadu’r cyhuddiad gan fynnu mai ceisio cysuro’r ddynes yr oedd o, cafwyd David Brammer yn euog o gamymddygiad mewn gwrandawiad yn y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn ne Llundain heddiw.

Yn sgil hyn, mae wedi cael ei ddiswyddo o’i waith fel gyrrwr Ambiwlans i Wasanaeth Swydd Efrog.


“Anystyriol”

Dywedodd Derek Adrian-Harries, Cadeirydd y panel ei fod ei weithredoedd yn “fwriadol ac anystyriol” a bod yr achos yn un “difrifol”.

Aeth yn ei flaen i ddatgan fod David Brammer wedi “tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn”.

“Byddai’r achos hwn yn tramgwyddo moesau unrhyw aelod o’r cyhoedd,” meddai.

Dechreuodd David Brammer sy’n 53 oed weithio fel glanhawr rhan amser gyda’r ymddiriedolaeth Ambiwlans.

Yna daeth yn barafeddyg, gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ers dros 12 mlynedd.