Mae cyfarwyddwr newydd i redeg Cyngor Ynys Môn wedi cael ei benodi gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons.

Bydd David Bowles, cyn brif weithredwr dros dro cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr, yn dechrau ei waith yn mis Hydref.

Y mis diwethaf fe wnaeth adroddiad gan Brif Archwilydd Cymru nodi methiannau difrifol yn y modd yr oedd y cyngor yn cael ei lywodraethu.

Mewn datganiad ysgrifenedig heddiw dywedodd Brian Gibbons ei fod wedi rhoi gwybod i’r cyngor sut y bydd yn ymyrryd yn y gwaith o redeg yr awdurdod.

Dywedodd y dylai’r Cyngor gydymffurfio â pob un o argymhellion y Brif Archwilydd, cyn gynted ag y bo modd.

Derbyn yr angen am newid

“Wrth wneud y penodiad roeddwn i’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y Cyngor ac ar yr ynys yn gyffredinol,” meddai Brian Gibbons.

“Dyw David ddim yn siarad Cymraeg. Pe byddai yna ymgeisydd yn siarad Cymraeg gyda’r un faint neu fwy o sgiliau a phrofiad fe fyddwn i wedi ei benodi.”

Dywedodd y byddai penodiad David Bowles yn parhau am flwyddyn ac wedyn y byddai prif weithredwr parhaol yn cael ei benodi yn ei le.

Dywedodd Brian Gibbons y byddai’n ymyrryd yn yr awdurdod am ddwy flynedd ond fe allai newid hynny gan ddibynnu ar sut y mae’r awdurdod yn mynd i’r afael â’r problemau’r oedd y Prif Archwilydd wedi eu nodi.

“Mae’n rhaid i bawb yn y cyngor dderbyn yr angen am newid a gweithio o fewn y trefniadau newydd i sicrhau adferiad cyflym a parhaol,” meddai’r Gweinidog.