Mae pryderon ynglŷn a chyllid ar gyfer gofalu am gleifion cystic ffibrosis mewn ysbytai ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, fod yn rhaid i gyllid digonol gael ei ddarparu er mwyn sicrhau fod pobl â’r afiechyd yn gallu manteisio ar gyfleusterau gofal o fewn y gymuned.

“Y llynedd, fe wnaeth Adran Cystic Ffibrosis Ysbyty Llandochau drin 180 claf – mae’r ffigwr hwn bron wedi dyblu dros y pedair blynedd diwethaf,” meddai Andrew Davies.

“Lleihau’r pwysau ar ysbytai”

Ar ben hyn, mae disgwyl i’r ffigwr gynyddu’n “sylweddol” yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn ôl Andrew Davies.

“Wrth i nifer y cleifion gynyddu, mae’n angenrheidiol fod y cyllid yn cynyddu hefyd, i sicrhau nad yw gofal y cleifion yn dioddef,” meddai.

Mae Ysbyty Llandochau â’u bryd ar ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys gwasanaethau cymunedol fel ffisiotherapi yn y cartref.

“Fe ddylen ni wneud popeth o fewn ein gallu i wneud bywyd yn haws i’r cleifion hyn – a lleihau’r pwysau ar ysbytai drwy adael nyrsys o fewn y gymuned i drin pobl yn eu cartrefi,” meddai Andrew Davies.