Mae’n debyg mai traeth Penbryn, naw milltir o Aberteifi, yw un o’r safleoedd gorau ym Mhrydain i weld cyfoeth o sêr gwib yr wythnos hon.
Mae’r glan môr milltir o hyd ar arfordir Ceredigion yn ddigon anghysbell a’r awyr yn ddigon clir i’n galluogi i fwynhau golygfa seryddol odidog, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r safle wedi ei restru fel un o’r saith gorau ledled Prydain i brofi’r ffenomenonau naturiol hyn ar ei gorau.
Cefn gwlad amdani
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi canllaw ar-lein sy’n rhoi gwybodaeth am y clystyrau sêr sydd ar gael i’w gweld eleni, ynghyd â gweddau’r lleuad, mapiau sêr yn ogystal â sut yn union i gyrraedd y safleoedd gorau ar gyfer archwilio’r awyr.
Y chwe safle arall i weld sêr gwib eleni:
• Black Down yn Sussex, y pwynt uchaf ar y South Downs ger Haslemere
• Dyffryn Tegin yn Nyfnaint (y tu mewn i Barc Cenedlaethol Dartmoor) ger castell Drogo
• Tirlun cylch cerrig Côr y Cewri yn Swydd Wiltshire
• Gwarchodfa Genedlaethol Wicken yn Swydd Gaergrawnt.
• Mam Tor yn Swydd Derby
• Friar’s Crag yn Cumbria
Dywedodd Jo Burgon, Pennaeth Adloniant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fod llygredd golau trefi wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mai cefn gwlad yw’r lle gorau i fwynhau a gweld yr awyr yn glir bellach.
“Daw’r golygfeydd gorau o’r safleoedd tywyllaf – dyma pam mae nifer o safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol mor dda i weld sêr,” dywedodd Jonathan Shanklin o Gymdeithas Seryddol Prydain.