Mae troseddau sy’n ymwneud â llosgi moduron yn fwriadol yn ne Cymru wedi costio £1.3miliwn mewn tri mis i drethdalwyr y flwyddyn hon.
Yn ôl pob golwg, rhwng Ebrill 1 a Mehefin fe wnaeth diffoddwyr tân yn Ne Cymru gael eu galw i ymdrîn â 278 o achosion o’r fath, yn ôl papur newydd y South Wales Echo.
Mae pryder cynyddol am gostau hyn ynghyd â’r perygl i fywydau hefyd.
“Mae’r achosion hyn yn costio miliynau o bunnau’r flwyddyn i drethdalwyr, rydym’ ni’n poeni am effaith hyn ar yr amgylchedd yn ogystal ” meddai Andy Marles, Pennaeth Gwasanaethau Tân.
Dywedodd fod yr achosion yma yn dargyfeirio sylw’r gwasanaeth tân o “ddigwyddiadau mwy difrifol”.
“Apelio am wybodaeth”
Ddydd Sadwrn diwetha’, cafodd tri char eu llosgi’n fwriadol ym Margoed a difrodwyd dau arall yn ddifrifol.
Derbyniodd yr Heddlu alwad tua 3am yn dweud fod car wedi cael ei losgi yn Park Road Garage yn Ffordd Parc a char arall wedi cael ei gynnau y tu ôl i Hanbury Road.
Fe wnaeth diffoddwyr tân ddarganfod car arall ar dân yn Wood Street hefyd, ac roedd adeilad yn Hanbury Road wedi cael ei ddifrodi.
Mae’r ymchwiliadau’n parhau, meddai’r Heddlu ac maen nhw’n trin yr achosion hyn fel rhai llosgi bwriadol.
Yn y cyfamser, maen nhw’n apelio am wybodaeth.
Os oes gwybodaeth gennych, cysylltwch â Heddlu Gwent ar 101 neu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.